Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2015

Amser: 09.33 - 10.51
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3289


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

William Powell AC (Cadeirydd)

Russell George AC

Bethan Jenkins AC

Joyce Watson AC

Tystion:

Huw Lewis AC, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Carol Mooney, Llywodraeth Cymru

Emma Williams, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Steve George (Clerc)

Kath Thomas (Dirprwy Glerc)

Gill Eveleigh (Dirprwy Glerc)

Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 166KB) Gweld fel HTML (132KB)

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

</AI2>

<AI3>

2       Deisebau newydd

</AI3>

<AI4>

2.1   P-04-656 Sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru

Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Hi yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol a Heddwch.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         Ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i goffáu 15 Mai ac a fyddai'n ystyried gwneud mwy i nodi'r diwrnod.

·         Ysgrifennu at y Llywydd, sy'n Gadeirydd Comisiwn y Cynulliad, i ofyn a oes gan y Cynulliad unrhyw ddigwyddiadau sy'n coffáu 15 Mai ac a fyddai'n bosibl ystyried gwneud rhagor i nodi'r diwrnod.

 

</AI4>

<AI5>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI5>

<AI6>

3.1   P-04-652 Android ac iOS, Cymraeg yn yr 21ain Ganrif

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried bod y deisebydd wedi nodi ei fod ar y cyfan yn fodlon ag ymateb y Prif Weinidog, fe gytunodd i gau'r ddeiseb.

</AI6>

<AI7>

3.2   P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Fe roddodd gyngor gweithdrefnol i gydweithwyr y deisebydd yn ystod ymweliad â Chanolfan Dyfi.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo ba gamau fyddai Llywodraeth Cymru yn eu cymryd os byddai niferoedd Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las yn cwympo'n is na'r lefel y dylai arwain at gamau o dan y Cytundeb Adar Dŵr Affrica-Ewrop, y cyfeiriwyd ato gan y deisebwyr. 

 

</AI7>

<AI8>

3.3   P-04-619 Lleoliaeth o ran Cynllunio ac Iawndal ar gyfer Trydydd Partïon parthed Prosiectau Seilwaith

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb, o ystyried fod y mater wedi cael ystyriaeth benodol yn ystod trafodaethau'r Cynulliad ynghylch Bil Cynllunio (Cymru). Felly, nid oes llawer mwy y gall y Pwyllgor wneud i ddatblygu'r mater.

</AI8>

<AI9>

3.4   P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog, yn gofyn iddo:

 

·         nodi diddordeb y Pwyllgor yn y mater hwn;

·         roi rhagor o fanylion am yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer adrodd i'r Cynulliad; ac

·         ysgrifennu at y Pwyllgor eto gyda mwy o wybodaeth pan fydd yn adrodd i'r Cynulliad.

</AI9>

<AI10>

3.5   P-04-556 Na i gau Cyffordd 41

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau interim y deisebydd; ac

·         yn ôl y gofyn, caniatáu mwy o amser i'r deisebydd ymgynghori ag aelodau o'r Grŵp Gweithredu ac ystyried unrhyw sylwadau atodol yn nes ymlaen.

</AI10>

<AI11>

3.6   P-04-578 Gwaith Gostegu Sŵn ar yr M4, i’r Gorllewin o Gyffordd 32

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb, ac wrth wneud hynny i gynghori'r deisebydd y dylai godi'r materion eraill yn ei llythyr diweddaraf gyda'r awdurdod lleol.

</AI11>

<AI12>

3.7   P-04-633 Codi Ymwybyddiaeth o'r Band Eang Gwael yn Ein Hardal

Cytunodd y Pwyllgor i ganiatáu rhagor o amser i'r deisebwyr roi sylwadau ar ohebiaeth y Dirprwy Weinidog.

</AI12>

<AI13>

3.8   P-04-397 Cyflog Byw

Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei farn ar sylwadau diweddaraf y deisebwyr ac am ddiweddariad pellach ar y cynnydd, gan gynnwys trafodaethau diweddaraf Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.

 

Ar ôl trafod y deisebau newydd a chyfredol, cytunodd y Pwyllgor i gael egwyl rhwng 10.07 a 10.25, cyn y sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Addysg a Sgiliau.

</AI13>

<AI14>

3.9   P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol

</AI14>

<AI15>

3.10P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn

Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor.

</AI15>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>